News: Improving Employee Investigations

Newyddion

Gwella Ymchwiliadau Gweithwyr


18 Mawrth 2024


AaGIC a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn ennill gwobr Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) am wella ymchwiliadau gweithwyr ar draws GIG Cymru

Gwobr dal tîmDdydd Gwener 15 Mawrth, enillodd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) wobr 'Menter Rheoli Newid' yng Ngwobrau CIPD yng Nghymru 2024.
Mae’r wobr fawreddog yn cydnabod llwyddiant prosiect cydweithredol sy’n cefnogi sefydliadau GIG Cymru i leihau niwed y gellir ei osgoi i weithwyr drwy wella’r modd y caiff eu polisïau a’u prosesau disgyblu eu cyflawni. Darllenwch fwy am hyn .

18 Mawrth 2024


Lleihau niwed i weithwyr y gellir ei osgoi drwy wella'r modd y cymhwysir y polisi a'r broses ddisgyblu

llun Andrew CooperYm mis Mawrth 2023, lansiodd Addysg a Gwella Iechyd Cymru raglen waith i gefnogi sefydliadau GIG Cymru i wella’r modd y caiff eu polisïau disgyblu eu cyflawni – gan ganolbwyntio ar bwysigrwydd gofalu am yr unigolion dan sylw, yn ogystal â chymhwyso’r broses ei hun.
Roedd y rhaglen, a ddatblygwyd yn wreiddiol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, AD a Gwasanaeth Lles y Cyflogeion wedi nodi gorddefnydd o'i pholisi disgyblu. Yn ei dri mis ar ddeg cyntaf, gwelodd ostyngiad o 71% yn nifer yr ymchwiliadau a gomisiynwyd ganddo, ynghyd ag arbedion cysylltiedig mewn absenoldeb salwch (3,000+ o ddiwrnodau) a chostau ariannol uniongyrchol (dros £700,000). Darllenwch fwy am hyn.

18 Rhagfyr 2023


AaGIC yn cefnogi rhaglen arobryn i wella ymchwiliadau gweithwyr yn GIG Cymru

llun grŵpMae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i gyflwyno eu rhaglen 'Gwella ymchwiliadau cyflogeion' ar draws GIG Cymru.
Y mis diwethaf, enillodd y rhaglen yn y categorïau 'Lles y Gweithlu' a ‘Cyfraniad rhagorol i drawsnewid iechyd a gofal' yng Ngwobrau GIG Cymru eleni. Derbyniodd hefyd wobr gan Gymdeithas Seicoleg Busnes y DU am 'Ragoriaeth mewn iechyd a lles' a Gwobr Anrhydedd Gofal Iechyd am brofiad gweithwyr. Darllenwch fwy am hyn.

21 Gorffennaf 2023


Yr Hyb Gwella Ymchwiliadau Gweithwyr newydd

pedwar o bobl yn cael sgwrsMae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi lansio adnodd newydd ar eu platfform Gwella i gefnogi’r rhai sy’n gyfrifol am gomisiynu ac arwain ymchwiliadau disgyblu. Mae’r ganolfan ar-lein yn defnyddio gwaith a ddatblygwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) i wella ei broses ymchwilio i gyflogeion, sydd bellach yn cael ei chroesawu’n ehangach o fewn GIG Cymru. Bydd ymwelwyr yn cael y cyfle i ddarllen blogiau arbenigol, yn archwilio effaith seicolegol cael eich tywys drwy broses ymchwilio; darparu persbectif cyfreithiol ar pam ei bod yn bwysig bod prosesau'n cael eu rhedeg yn gywir; datblygu dealltwriaeth o effaith ariannol gorddefnydd o bolisïau AD ffurfiol i fynd i'r afael â materion yn y gweithle. Darllenwch fwy am hyn.

25ain o Ebrill 2023


Hyfforddiant newydd yn annog cyflogwyr GIG Cymru i wneud ymchwiliadau gweithwyr fel y dewis olaf

JulieFis diwethaf, gwnaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan cyflawni eu hyfforddiant Hymchwiliadau Gweithwyr: Gofalu am eich pobl a'r broses ar gyfer sefydliadau'r GIG yng Nghymru.

Amlygodd y digwyddiad y niwed y gall prosesau ymchwilio ei achosi i unigolion sy'n cael eu hymchwilio, yn ogystal â'r rhai sy'n rhan o'r broses. Roedd hefyd yn ystyried y niwed posibl i ddiwylliant ac enw da sefydliad, gan ddargyfeirio amser ac adnoddau i ffwrdd o gyflawni ei fusnes craidd. Darllenwch fwy am hyn.