Dental Leadership Hub

Hwb Arweinyddiaeth
Deintyddiaeth


Mae'r maes hwn wedi'i gynllunio i greu dealltwriaeth o sut mae arweinyddiaeth yn rhan annatod o ofal iechyd i'n cleifion ac mae ymarfer arweinyddiaeth dosturiol o fudd i gleifion a gwasanaethau yng Nghymru.

Mae pwysigrwydd arweinyddiaeth glinigol weladwy lle mae gweithwyr deintyddol proffesiynol yn gallu croesawu rolau arwain a rhoi llais i'r proffesiwn deintyddol yn y system gofal iechyd ehangach yn cael sylw cynyddol. Mae sgiliau arwain yn bwysig i bob aelod o'r tîm deintyddol; a bydd hyn yn cynyddu wrth i'r proffesiwn symud tuag at fodel gofal amlddisgyblaethol gan ddefnyddio cymysgedd o sgiliau ac ehangu eu cyfranogiad mewn Clystyrau Gofal Sylfaenol. Mae timau deintyddol yn gofyn am gyfarwyddyd, strategaeth ac ymdeimlad o bwrpas os ydynt am sicrhau llwyddiant wrth gefnogi a gofalu am eu cleifion.

Yn AaGIC rydym yn darparu'r adnodd arweinyddiaeth hwn ar gyfer pob gweithiwr deintyddol proffesiynol sydd â diddordeb mewn darganfod ac ehangu eu taith arweinyddiaeth o fewn eu proffesiwn eu hunain wrth elwa o'r profiad o ryngweithio â chymunedau eraill ar blatfform GWELLA.

Mae Fframwaith Arweinyddiaeth Dosturiol AaGIC yn helpu gweithwyr deintyddol proffesiynol sydd (neu a fydd yn ofynnol) i ddatblygu'r sgiliau i arwain eu timau'n effeithiol yn eu cymuned leol, eu system iechyd neu ar lefel genedlaethol.


Archwiliwch Gwella

Rydych yn defnyddio Gwella, sef Porth Arweinyddiaeth AaGIC. Nod Gwella yw darparu llwybrau datblygu arweinyddiaeth unigol, grymusol ar gyfer arweinwyr a rheolwyr ar bob lefel o fewn y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, er budd cleifion yng Nghymru.